Lladdwyd chwech o Balesteiniaid, gan gynnwys mam feichiog a’i babi yn ystod rhagor o ryfela rhwng Palesteina ag Israel ar drws y Llain Gaza.
Saethodd y Palesteiniaid ragor na 250 o rocedi tuag at Israel gyda’r wlad honno yn dial wrth ddefnyddio awyrennau, droniau a bomiau.
Daeth y brwydro wedi mis o dawelwch rhwng y ddwy ochor.
Yn y cyfamser cafodd pedwar o Israeliaid eu hanafu – gan gynnwys dyn oedrannus sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Digwyddodd y saethu wrth i arweinwyr Hamas, y mudiad sy’n rheoli Gaza, a grŵp arall Islamic Jihad, gyfarfod yn Cairo mewn ymgais i gadw’r cadoediad.
Daw hefyd ar amser sensitif i Israel sy’n cynnal ei Dydd Cofio a gwyliau Dydd Annibyniaeth yr wythnos hon, cyn cynnal cystadleuaeth yr Eurovision yn nes ymlaen y mis hwn.
Bydde rhagor o ymladd yn cael effaith ar yr Eurovision gan olygu bod rhai teithwyr yn dewis peidio mynychu’r digwyddiad
Ac i bobol ar y Llain Gaza, mae nhw yn paratoi i ddechrau mis o ymprydio sanctaidd Mwslemaidd Ramadan ddydd Llun.