Mae bachgen 13 oed wedi marw ar ôl iddo gael ei dynnu o’r môr oddi ar arfordir Llandudno.

Cafodd y plentyn ei dynnu o’r dŵr yn Ogof y Colomennod ym Mhen y Gogarth toc wedi 9.20yh neithiwr (nos Sadwrn) wedi i wasanaeth gwylwyr y glannau dderbyn galwad am 8.55yh

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd nad oedden nhw’n credu bod amgylchiadau amheus yn gysylltiedig â’r digwyddiad.