Fe ddylai ambell i gyfarfod llawn o’r Senedd gael ei gynnal yng ngogledd Cymru, yn ôl Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.
Wrth edrych yn ôl ar 20 mlynedd o ddatganoli dywedodd wrth raglen Sunday Politics BBC Cymru: “Realiti ein sefyllfa ni yw bod y Senedd yn ein prifddinas ni a bod ein prifddinas ni yn un o’r mannau deheuol yn ein gwlad ni – does dim lot allwn ni wneud am hynny.
“Fel Senedd, ry’n wedi ceisio symud ein pwyllgorau i gwrdd mewn gwahanol fannau yng Nghymru ac ry’n yn ceisio gwneud gwaith drwy’n Haelodau Cynulliad ymhob rhan o Gymru, wrth gwrs.
“[Ond] wi’n credu ar ôl 20 mlynedd bod angen ystyried o ddifrif bod ein cyfarfod llawn ni o’r Senedd yn cwrdd mewn man arall yng Nghymru – siŵr o fod yn un o’n mannau mwyaf gogleddol ni fel ein bod yn cynrychioli pob cymuned yng Nghymru.
“Ambell waith mae eisiau gwneud yr amlwg yn fwy amlwg i bobl.”
Cyfaddefodd bod y cynulliad wedi bod yn “siop siarad” ar y dechrau yn 1999.
“Ro’n i’n siop siarad i ddechrau – does dim dwywaith am hynny,” meddai, “ond erbyn hyn ry’n ni ddim yn trafod mân bethau fel tato sy’n dod o’r Aifft. Ry’n ni bellach yn trafod deddfwriaeth sylweddol ac arloesol fel y ddeddfwriaeth ar drawsblaniadau.”
Ychwanegodd bod yna dipyn o rwystredigaethau ar y dechrau – “rhwystredigaeth o fethu creu deddfwriaeth gynradd.
“Dwi’n cofio’r dyddiau ’na pan roddwyd i ni gan Lywodraeth San Steffan y system o Elcos – system ryfedd iawn oedd ddim yn bodoli unrhyw le arall yn y byd – lle roedd dwy senedd yn gorfod penderfynu ar unrhyw ddeddfwriaeth ar yr un pryd – system gwbl wastraffus.
“Ac yna adeg refferendwm 2011, pobl Cymru yn ein rhyddhau ni fel seneddwyr i fedru deddfu ein hawliau ni’n hunain – mae hynna wedi agor ietau tuag at fwy o greadigrwydd yn yr hyn ry’n yn ei wneud.
“Dwi’n deisyfu am fwy o gyfrifoldebau i’w pennu yma yng Nghymru – mae eraill, a finnau hefyd, eisiau i ni fod yn fwy creadigol, yn fwy gwreiddiol yn y pwerau sydd ’da ni nawr.”
Galwodd hefyd am i’r Senedd gael mwy o aelodau na’r 60 presennol.
Ychwanegodd: “Ry’n yn rhy fach o senedd i ymwneud â’r cyfrifoldebau sydd gyda ni.”