Bu cryn gynnwrf ac anhrefn ar strydoedd dinas Paris ddoe (dydd Mercher, Mai 1) wrth i ddegau ar filoedd o brotestwyr gynnal ralïau Calan Mai.

Yn ôl yr awdurdodau, bu tua 16,000 o bobol yn gorymdeithio drwy ganol y ddinas, a mwy na 151,000 ledled y wlad.

Mae cwmni preifat, er hynny, yn rhoi rhif llawer uwch, wedi iddyn nhw gyfrif hyd at 40,000 o brotestwyr ar strydoedd Paris.

Cafodd 288 o bobol eu harestio yn y brifddinas, meddai’r heddlu, a bu’n rhaid archwilio 12,500 o fagiau protestwyr.

Bu’n rhaid i fwy na 580 o siopau, bwytai a chaffis gau eu drysau am y diwrnod, ynghyd â rhai gorsafoedd trenau.

Roedd yr awdurdodau eisoes wedi cyhoeddi rhybudd ynglŷn ag “actifyddion radical” yn creu trafferthion, fel sy’n arferol yn Ffrainc ar y diwrnod cyntaf o Fai ers dwy flynedd bellach.

Roedd llawer yn protestio yn erbyn polisïau economaidd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, sy’n cael eu gweld fel rhai sy’n ffafriol i’r cyfoethog a busnesau mawr, yn hytrach na’r gweithiwr cyffredin.