Mae’r rhan fwyaf o bobol Ffrisia yn “gyfforddus iawn” â’r ffaith eu bod yn rhan o’r Iseldiroedd, yn ôl Dr Willem Visser, academydd o’r Iseldiroedd sydd yn gweithio i’r Fryske Akademy – corff sydd yn ymchwilio i’r iaith Ffriseg.

Talaith yng ngogledd yr Iseldiroedd yw Ffrisia, ac mae rhai fel y FNP (Plaid Genedlaethol Ffrisia) am iddi gael rhagor o bwerau.

Ond yn ôl Dr Willem Visser, mae mwyafrif o bobol yn hapus bod gan Ffrisia Llywodraeth Daleithiol, a dydyn nhw ddim eisiau rhagor o bŵer.

“Mae yna rhai pobol sydd eisiau i Ffrisia fod yn annibynnol,” meddai wrth golwg360. “Ac mae rhai eisiau i Ffrisia fod yn rhan o wladwriaeth ffederal.

“Ond mae’r rhan fwyaf o bobol Ffrisia yn gyffyrddus iawn gyda’r drefn sydd ohoni. Maen nhw’n hapus bod Ffrisia yn rhan o wladwriaeth yr Iseldiroedd.

“A does dim ymdeimlad gwrth-Iseldiroedd yn Ffrisia.”

Iaith

O’r deuddeg talaith sy’n rhan o’r Iseldiroedd, Ffrisia yw’r unig un sydd gydag iaith ei hun, ac mae ymchwil yn awgrymu mai dyma yw iaith frodorol dros hanner ei phoblogaeth.

Dangosodd cyfrifiad 2001 bod tua 470,000 yn siarad yr iaith, ond mae’r academydd yn nodi bod nifer y siaradwyr wedi bod yn “disgyn yn raddol” ers hynny.

“Mae’r iaith Iseldireg yn dominyddu,” meddai. “Ac mae ei ddylanwad ar Ffriseg yn tyfu o hyd. Mae Iseldireg yn dylanwadu tipyn ar y Ffriseg ar lafar.

“Mae llawer o ddefnydd o eiriau a chystrawen yr Iseldireg. Mae Ffriseg wedi cael ei effeithio gan Iseldireg ar bob lefel.”

Cefnogaeth “lugoer”

Yn ôl yr academydd mae yna ymdrechion ar waith i gadw’r iaith yn fyw. Ond, meddai, dyw Llywodraeth yr Iseldiroedd ddim wedi cyfrannu’n fawr at hynny.

“Mae Llywodraeth Daleithiol Ffrisia yn gwario tipyn o arian ar Ffriseg,” meddai. “Ac mae’r arian yna’n cael ei wario ar addysg gynradd yn bennaf.

“Ond mae Llywodraeth yr Iseldiroedd yn llugoer yn eu cefnogaeth at Ffriseg.

“Mae swyddogion Llywodraeth yr Iseldiroedd yn hoffi’r iaith, ac maen nhw’n gweld ei gwerth. Ond dydyn nhw ddim bod tro yn gweithredu ar hynny trwy bolisïau.”