Mae heddlu’n ymchwilio wedi i bedwar o bobol gael eu canfod yn farw mewn bloc o fflatiau yn Ohio.

Fe ddaethpwyd o hyd i gyrff tair dynes ac un dyn yn y Lakefront sy’n rhan o gymuned West Chester i’r gogledd o Cincinnati, wedi i bobol glywed gwn yn cael ei danio sawl gwaith.

Mae pennaeth yr heddlu lleol wedi cadarnhau fod pedwar o bobol wedi marw, a’u bod yn perthyn i’w gilydd ac yn byw yn yr un fflat gyda’i gilydd.

Aelod arall o’r teulu oedd wedi ffonio’r gwasanaethau brys, ar ôl dod adref a gweld ei berthnasau ar y llawr, yn gwaedu.

Mae’r achos yn cael ei drin fel digwyddiad ynysig, ac nad oes peryg i neb arall yn y gymuned.