Mae Jeremy Corbyn dan bwysau i gefnogi ail refferendwm Brexit wrth i gorff rheoli’r blaid gyfarfod er mwyn pennu cynnwys maniffesto’r etholiad Ewropeaidd.

Mae disgwyl i’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol gynnal cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 30) er mwyn cadarnhau safbwynt y Blaid Lafur ar Brexit ar drothwy’r etholiad fis nesaf.

Daw wrth i’r trafodaethau rhwng Llywodraeth Prydain a’r Blaid Lafur barhau, gyda Gweinidog y Cabinet, David Lidington, yn dweud bod y cyfarfodydd ddydd Llun wedi bod yn “bositif”.

Ond mae’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, wedi dweud bod yna le i gwestiynu a yw’r Blaid Lafur “o ddifrif ynghylch darparu Brexit” ai peidio.

Ar drothwy cyfarfod y Pwyllgor Gwaith heddiw, mae dau Aelod Seneddol Llafur, Peter Kyle a Phil Wilson, wedi sgrifennu at Jeremy Corbyn a holl aelodau’r pwyllgor yn eu hannog i sicrhau bod ail refferendwm yn addewid sy’n cael ei gynnwys y maniffesto.

Mae tua 115 o Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd Ewrop hefyd wedi arwyddo llythyr wedi ei gyfeirio at aelodau’r pwyllgor gwaith, tra bo dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Tom Watson, wedi annog ei ddilynwyr ar Twitter i lobïo’r uwch-swyddogion.

Mae rhai o’r prif undebau wedi cefnogi galwadau tebyg hefyd.