Mae tri o bobol wedi marw mewn damwain hofrennydd yn Honolulu, Hawaii.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd ddeuol sy’n cysylltu ardal fasnachol Kailua gyda rhannau eraill o’r dref.

Dyw hi ddim yn glir eto faint o bobol oedd ar fwrdd yr hofrennydd pan aeth i drafferthion, a does yna ddim mwy o wybodaeth ar gael eto am y tri sydd wedi’u lladd.

Mae Kailua yn dref o tua 50,000 o bobol tua hanner awr o daith mewn car o ganol Honolulu.

Yn Kailua y mae maes y Marine Corps. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae wedi dod yn lle gwyliau poblogaidd gydag ymwelwr sy’n mwynhau ymlacio ar y traeth, mynd i gerdded a siopa.