Y Sosialwyr ddaeth i’r brig yn yr etholiad cyffredinol yn Sbaen, er gwaethaf cynnydd sylweddol yng nghefnogaeth un o bleidiau’r asgell-dde.

Gyda 99% o’r pleidleisiau wedi eu cyfri, fe lwyddodd y Sosialwyr, a oedd yn cael eu harwain gan y Prif Weinidog, Pedro Sanchez, i sicrhau 29% o’r pleidleisiau, gan ennill 123 o seddi yng Nghyngres y Dirprwyon – tŷ isaf y Senedd yn Sbaen.

Fe lwyddodd y blaid asgell-dde, Vox, i sicrhau 10% o’r pleidleisiau, gan ennill 24 o seddi. Dyma’r tro cyntaf i’r blaid gael mynediad i Gyngres y Dirprwyon mewn pedwar degawd.

Mae Pedro Sanchez wedi cyhoeddi y byddai’n cynnal trafodaethau gyda phleidiau eraill er mwyn ceisio ffurfio llywodraeth.

Wrth annerch torf o bobol y tu allan i bencadlys ei blaid yng nghanol Madrid, dywedodd y Prif Weinidog fod “y dyfodol wedi ennill a’r gorffennol wedi colli”.

Fe wnaeth hefyd awgrymu y byddai’n chwilio am glymblaid rhwng pleidiau asgell-chwith, cyn rhybuddio gwleidyddion Catalwnia y byddai unrhyw gytundeb i gydweithio yn seiliedig ar gyfansoddiad Sbaen.

Mae’r cyfansoddiad, a ddaeth i rym yn 1978, yn ei gwneud hi’n anodd i unrhyw ranbarth o fewn Sbaen i fynd yn annibynnol.