Mae rhybudd y gallai Mozambique weld llifogydd a thirlithriadau yn dilyn seiclôn sydd wedi lladd o leiaf bedwar o bobol hyd yn hyn.

Cafodd un person ei ladd yn ninas Pemba ac un arall yn rhanbarth Macomia, tra bod dau o bobol wedi’u lladd ar ynys Ibo, yn ôl trigolion lleol.

Tarodd y seiclôn y wlad ddydd Iau (Ebrill 25), chwe wythnos yn unig ar ôl i seiclôn arall yng nghanolbarth y wlad ladd 600 o bobol.

Mae’r Groes Goch yn dweud bod difrod sylweddol yn nhalaith Cabo Delgado, gyda phryderon difrifol am gymunedau Macomia, Quissanga a Mocimboa da Praia.