Mae Llafur dan bwysau i sicrhau bod cefnogi ail refferendwm Brexit yn cael ei gynnwys ym maniffesto’r blaid ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd.

Ymhlith y rhai sy’n arwain yr alwad mae gweinidogion cysgodol ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd.

Mae bron i 90 o aelodau wedi llofnodi llythyr yn galw ar y Pwyllgor Gwaith, sy’n cyfarfod ddydd Mawrth (Ebrill 30) i ymrwymo i bleidlais gyhoeddus.

Mae’r mater yn bygwth hollti’r Blaid Lafur ar hyn o bryd, sy’n poeni y gallen nhw golli cefnogaeth pleidleiswyr yng nghadarnleoedd Brexit.

Mae pamffled gan y Blaid Lafur yn dweud eu bod yn gobeithio trechu Plaid Brexit Nigel Farage gyda “neges o obaith ac undod”.

Bydd etholiadau Ewrop yn cael eu cynnal ar Fai 23, a Llafur a Phlaid Brexit sydd ar y blaen yn y polau piniwn ar hyn o bryd.

Mae’r polau piniwn hynny’n awgrymu’n gryf fod y mwyafrif o aelodau Llafur o blaid pleidlais i gadarnhau amodau Brexit.