Steve Jobs
Marc Webber, cyn-olygydd Sun Online a Phennaeth Cynnwys ITV.com sydd bellach yn ymgynghorydd technoleg newydd, sy’n talu teyrnged i Steve Jobs, cyn-Brif Weithredwr cwmni Apple a fu farw ddoe.
Mae pob un o’r straeon rwyf wedi darllen heddiw am Steve Jobs yn ei ddisgrifio fel dyn â gweledigaeth.
Er fy mod yn cytuno â hynny, ei ased mwyaf yn fy marn i, ac i ddefnyddio disgrifiad Saesneg, oedd ei ‘bloody-mindedness’. Roedd ganddo benderfyniad oedd ddim yn cydnabod unrhyw gyfyngiadau.
Mae sawl un o’i gwmpas oedd disgrifio’n agwedd fel un ystyfnig, trahaus a hyd yn oed sarhaus.
Ond mewn byd o reolwyr prosiect ‘gwleidyddol gywir’ a iteration-monkeys, profodd yr oedd ‘na le i deimladau ac emosiwn. Roedd yn dangos angerdd ac yn barod i wneud penderfyniadau ar sail greddf er mwyn sicrhau gwell prosiect, a hefyd yn barod iawn i gymryd risg er mwyn sicrhau cynnyrch gwell.
Mae’r etifeddiaeth mae wedi gadael ar ei ôl yn golygu na fydd neb yn anghofio ei gyfraniad at y busnes o dechnoleg, nac i’r byd ehangach. Daeth yn ôl i wyrdroi ei gwmni ei hun ac fe greodd gynnyrch a adawodd luddites a gîcs yn gwbl geg agored, gan eu hannog i roi cynnig ar fyd newydd dewr y rhyngrwyd.
Mae Apple nawr yn wynebu dyfodol ‘diddorol’ heb Steve Jobs. Ond mae wedi sicrhau bod synnwyr cyffredin, gwrthod y robotiaid, yn golygu ein bod i gyd yn cael y dechnoleg rydym yn ei haeddu.