Bu farw ffarmwr 74 oed ar ôl i’w feic cwad lanio ar ei ben, clywodd cwest heddiw.

Torrodd Ieuan Evans sawl asgwrn a dioddef  anafiadau i’w frest, yn dilyn y ddamwain ar ei fferm ger Caerfyrddin.

Galwyd y gwasanaethau brys ar ôl i gymydog weld ei gorff ar waelod llethr yn Fferm Cwm Du, Ffordd Elim, Caerfyrddin, ar 25 Mai eleni.

Deathpwyd o hyd i’r beic gerllaw, â difrod i’r cyrn.

Dywedodd crwner dros dro Caerfyrddin, Pauline Mainwaring, nad oedd unrhyw un wedi gweld y ddamwain.

Gwelwyd olion teiars yn arwain i fyny at y fan lle y daethpwyd o hyd i gorff y ffermwr di-briod.

Daeth ymchwiliad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch i’r casgliad fod y beic yn gweithio’n iawn.

Dywedodd Scott McKinnon o’r gweithgor wrth y cwest ei fod yn bosib fod y beic wedi colli gafael ar y tir oherwydd mwd llithrig.

“Dyw’r math yna o beth ddim yn anghyffredin, yn anffodus,” meddai. “Rhwng 2009 a 2010 roedd 45 marwolaeth amaethyddol yng Nghymru a Lloegr.

“Roedd tri o’r rheini yn ymwneud â cherbydau.”

Daeth arcwhwiliad post-mortem i’r casgliad nad oedd yna unrhyw dystiolaeth meddygol fyddai yn esbonio pam fod Ieuan Evans wedi colli rheolaeth ar ei feic.

Cofnodwyd dyfarniad o farwolaeth ddamweiniol.