Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr wedi penderfynu argraffu £75 biliwn yn rhagor o arian yn y gobaith o roi hwb i economi’r wlad.
Penderfynodd Pwyllgor Polisi Ariannol y banc argraffu £275 biliwn yn hytrach na’r £200 biliwn yr oedden nhw wedi cytuno arno’r flaenorol.
Mae yna berygl y bydd y penderfyniad yn gwthio chwyddiant hyd yn oed yn uwch, wrth i Brydain wynebu ail ddirwasgiad.
Yn y cyfamser penderfynodd Banc Lloegr gadw cyfraddau llog ar 0.5%.
Dyma’r tro cyntaf i’r banc benderfynu argraffu rhagor o arian ers mis Tachwedd 2009, ac mae’n awgrymu eu bod nhw’n rhagweld fod dirwasgiad arall ar y ffordd.
Dywedodd llefarydd ar ran Banc Lloegr fod “tensiynau yn economi’r byd yn bygwth adferiad Prydain” ac y bydd y dirwasgiad “yn fwy ac yn parhau’n hirach nag yr oedden nhw wedi ei ragweld”.
Mae’r penderfyniad wedi ei groesawu gan arweinwyr busnes sydd wedi galw am gymorth er mwyn rhoi hwb i’r economi.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ymchwiliad gan Fanc Lloegr oedd yn awgrymu fod argraffu arian wedi cynyddu Cynnyrch Domestig Gros Prydain rhwng 1.55% a 3% yn y gorffennol.