Bydd cyllideb Radio Cymru yn crebachu 3.3% erbyn 2016, cyhoeddodd y BBC heddiw, a chyllideb Radio Wales yn crebachu 3.2%.

Mae’n debyg y bydd 8-10 o staff yn colli eu swyddi gyda Radio Cymru yn sgil y toriadau – yr un nifer ag yn Radio Wales.

Daw’r newyddion wrth i’r BBC gyhoeddi eu cynllun ar gyfer gwneud toriadau ar draws y gorfforaeth heddiw, gyda’r amcan o arbed £670 miliwn erbyn 2016/17.

Bydd Radio Cymru a Radio Wales yn derbyn £400,000 yr un yn llai o gyllideb erbyn 2016/17, yn ôl y cyhoeddiad heddiw.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, wrth staff y prynhawn yma fod rhaglenni AM:PM a Dragon’s Eye am ddod i ben, ond bod rhaglen newydd wythnosol i ddechrau ar BBC One Wales yn 2012 a fydd yn “bwrw golwg ehangach ar fywyd cyhoeddus Cymru.”

Mae Golwg 360 ar ddeall y bydd o gwmpas 100 o swyddi yn cael eu torri ar draws holl adrannau BBC Cymru, gyda’r mwyafrif – 57 swydd – yn cael eu torri yn y gwasanaethau cefnogi.

Bydd hyd at 24 o’r swyddi hyn cael mynd yn yr adran newyddion, ond fe fydd hyd at 12 swydd arall yn cael eu creu o’r newydd yn yr adran. Bydd dwy o’r swyddi yn cynnwys penodi dau ohebydd newydd – un ar gyfer materion economaidd, a’r llall ar gyfer diwylliant.

Mae hefyd yn debyg bod BBC Cymru nawr yn ystyried mwy o gyd-weithio ag S4C er mwyn “lleihau gwaith y swyddfa gefn”.

Yn ôl adroddiadau o fewn BBC Cymru, mae Rhodri Talfan Davies wedi addo i staff y bydd y BBC yn gwneud eu gorau glas i sicrhau nad yw’r toriadau yn effeithio ar unigolion.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y gorfforaeth heddiw hefyd yn dweud y bydd canran o arian y drwydded sy’n cael ei wario yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn sylweddol uwch erbyn 2016 – gyda chynlluniau i symud mwy o staff allan o’u pencadlys yn Llundain a thuag at ganolfannau cynhyrchu eraill ar draws Gwledydd Prydain.

Mwy o gydweithio rhwng Caerdydd a Bryste

Mae disgwyl y bydd y BBC yng Nghaerdydd yn cael mwy o gyfrifoldeb dros raglenni dogfen a nodwedd o hyn ymlaen, gan gydweithio’n agosach â’r BBC ym Mryste er pwrpas cynhyrchu.

Fe fydd rhai o raglenni ffeithiol ar gyfer teledu’r BBC a Radio 4 hefyd yn cael eu symud allan o Birmingham, ac yn cael eu hadleoli i Fryste a Chaerdydd.

Arbed newyddion Cymru

Mae’r adroddiad yn dweud bod ystod y newyddion sy’n cael ei ddarlledu yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wedi cael ei ddiogeli dan y cynlluniau newydd.

Dywedodd yr adroddiad y byddai “allbwn teledu a radio yn y rhannau yma o’r Deyrnas Unedig yn canolbwyntio ar raglenni ar yr amser brig, sy’n darparu’r gwerth gorau i’r gynulleidfa ar radio a theledu, gyda thoriadau yn bennaf yn amserlen rhaglenni oriau tawel BBC 2.”

Ond mae’r adroddiad yn dweud y bydd llai o arian yna cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon lleol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rhannu rhaglenni

Un o’r dyheadau yn yr adroddiad yw y bydd deunydd radio a theledu sydd wedi eu gwneud yn arbennig ar gyfer BBC Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael ei rannu fwy fwy â chynulleidfaoedd ar draws Prydain.

“Ychydig iawn o allbwn teledu o’r ardaloedd hyn o’r Deyrnas Unedig sy’n cael ei ddangos i weddill y wlad,” meddai’r adroddiad, “ac mae yna le i ddod â mwy o raglenni fel A History of Scotland a Coal House i gynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig.”

Darlun Prydeinig

Mae’r cynlluniau hyn yn rhan o arbedion o £670 miliwn y flwyddyn erbyn 2016/17, sydd yn mynd i olygu colli 2,000 o swyddi ar draws y gorfforaeth yn ystod y bum mlynedd nesaf.

Bydd cyllid y gorfforaeth nawr yn cael ei ganolbwyntio’n benodol ar adrannau newyddion, rhaglenni plant, a drama a chomedi gwreiddiol – gyda thoriadau o 30% mewn “allbwn o fathau eraill.”