Swyddfa S4C
Mae angen i S4C gael Prif Weithredwr newydd yn ei swydd cyn gynted â phosib er mwyn bod yn rhan o’r trafodaethau gyda’r BBC ynglŷn â’r dyfodol.
Dyna ddywed yr Arglwydd Morris o Aberafan sydd eisoes wedi cwrdd â gweinidogion llywodraeth glymblaid San Steffan i fynegi ei bryderon am y cynlluniau ar gyfer y sianel Gymraeg.
Yn ei hunangofiant, Fifty Years in Politics and Law, mae’n dweud ei fod yn pryderu am ddyfodol teledu Cymraeg.
“Beth sy’n fy mhryderu i yw’r berthynas rhwng y BBC ac S4C a sut fydd hyn yn gweithio. Rwy’n deall eu bod wedi bod yn trafod y mater ers rhai misoedd heb ddod i benderfyniad ac mae hynny yn achos gofid.” meddai mewn cyfweliad arbennig â cylchgrawn Golwg.
“Mae’r BBC yn anghenfil mor fawr ac mor awdurdodol a petasai hwnnw’n gwasgu ar gynhyrchiad annibynnol rwy’n credu, o edrych arno’n hollol wrthrychol, se’ hynny’n lleihau dewis.
“Dw i’n credu yn enwedig mewn teledu, radio a phapurau newydd ei bod yn bwysig os o bosibl i gael dewis. A dw i’n gofidio bod yr amser yn mynd ymlaen a’r cyfan ddim wedi’i benderfynu.”