Mae’r cwmni ceir Tesla yn gobeithio y byddan nhw’n cynhyrchu ceir sydd ddim angen gyrrwt, erbyn y flwyddyn nesaf.
Fe gyhoeddodd y cwmni ei gynlluniau mewn cynhadledd yn eu pencadlys yn Califfornia ddoe (dydd Llun, Ebrill 22).
Bwriad Tesla yw trawsnewid ei geir trydanol i gerbydau hunan-yrru a dywed y prif weithredwr Elon Musk mai sglodyn cyfrifiadurol arbennig fydd yn gyfrifol am hynny.
Cyn beirniannydd gyda chwmni Apple oedd yn gyfrifol am y sglodyn cyntaf gafodd ei greu dair blynedd yn ôl, ond yn ôl Elon Musk, mae sglodyn newydd Tesla yn well nag unrhyw un arall ar y farchnad “o bell ffordd”.
Mae arbenigwyr yn amheus a yw technoleg Tesla wedi datblygu digon i alluogi i.ronot yrru’r ceit newydd, a lle nad oes angen i.berson go iawn gymryd rheolaeth os bydd rhywbeth yn mynd o’i le.