Mae ail ddaeargryn wedi ysgwyd y Ffilipinau wrth i’r gwasanaethau achub.chwilio am gyrff yn rwbel archfarchnad a gafodd ei chwalu ddoe (dydd Llun, Ebrill 22).
Yn nhref Porac yn rhanbarth Oampanga, i’r gogledd o Manila, mae 11 o bobol wedi marw.
Dywed Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau fod yr ail ddaeargryn yn mesur 6.3 ac wedi taro ynysoedd canolog y Ffilipinau, ddiwrnod ar ôl i ddaeargryn 6.1 ysgwyd gogledd y wlad.
Mae gwirfoddolwyr y Groes Goch, y fyddin, heddlu a phentrefwyr yn defnyddio craeniau a cŵn i edrych am fwy o gyrff.
Cafwyd hyd i un yn fyw bore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 23 ond mae o leiaf 24 o bobol yn dal ar goll ac mae 81 wedi cael eu hanafu.
Mae’r Ffilipinau yn profi daeargrynfeydd yn aml iawn oherwydd ei fod yn eistedd ar Gylch Tan y Môr Tawel – bwa o losgfynyddoedd byw a llinellau nam ar waelod y môr.