Mae 205 o bobol wedi marw yng nghanol y gwrthdaro yn Libya y mis hwn wrth i garfannau ymladd am reolaeth o’r brifddinas, Tripoli, yn ôl y Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Gyda’r gwrthdaro daw bygythiad rhyfel cartref arall ar raddfa gwrthryfel 2011 wnaeth arwain at lofruddiaeth yr unben, Muammar Gaddafi.
Dywed y WHO ei fod yn defnyddio arbenigwyr meddygol a llawfeddygon i ymdrin â’r 913 o bobol sydd wedi eu hanafu ar hyn o bryd.
Fe ddechreuodd yr ymladd am Tripoli yn gynharach y mis hwn.
Yn y cwffio mae Byddin Genedlaethol Libya, o dan arweiniad y pennaeth Khalifa Hifter a chefnogaeth Llywodraeth gystadleuol yn nwyrain y wlad yn erbyn militias sydd â chefnogaeth Llywodraeth Tripoli a’r Cenhedloedd Unedig.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae mwy na 25,000 o bobol wedi cael eu hadleoli o ganlyniad i’r ymladd.