Mae teledu gwladwriaeth Swdan yn dweud fod byddin y wlad am wneud “datganiad pwysig” ar ôl bron i bedwar mis o brotestio yn erbyn y Llywodraeth yn galw ar i’r arlywydd Omar al-Bashir gael ei ddisodli.

Y gred yw gall y cyhoeddiad fod yn arwydd bod y fyddin yn mynd i gymryd drosodd ar ol 30 mlynedd o reolaeth.

Mae rhwydweithiau teledu Arabaidd wedi bod yn cario adroddiadau fod yr arlywydd wedi mynd a bod swyddogion y blaid yn cael eu harestio – ond nid oes cadarnhad o hyn.

Does neb yn gwybod ble mae’r unben Omar al-Bashir ar hyn o bryd.

Roedd trefnwyr y protestiadau yn erbyn yr arlywydd yn annog pobol y wlad i ymuno ag eisteddiadau parhaus sydd wedi bod ar y gweill yn y brifddinas, Khartoum, ers y penwythnos.

Mae 22 o bobol wedi marw ers dydd Sadwrn (Ebrill 6) oherwydd gwrthdaro rhwng lluoedd diogelwch Swdan a’r protestwyr.