Mae tri aelod o fyddin yr Unol Daleithiau, ynghyd â chontractwr o’r wlad, wedi cael eu lladd ar ôl i fom ffrwydro ar ochr lôn yn agos i’w prif safle yn Affganistan.

Yn ôl yr Unol Daleithiau a NATO, fe ddigwyddodd ger safle awyr Bargam i’r gogledd o Kabul, ble cafodd tri arall eu hanafu hefyd.

Mae’r Taliban wedi cymryd cyfrifoldeb gan ddweud bod un o’u bomwyr wedi ffrwydro’r bom mewn car.

Fe gafodd o leia’ bump o ddinasyddion Affganistan hefyd eu hanafu yn ystod yr ymosodiad.