Mae trigolion Rwanda wedi bod yn coffáu’r rhai a gafodd eu lladd mewn hil-laddiad yn y wlad chwarter canrif yn ôl.
Fe fu’r Arlywydd Paul Kagame a’i wraig Jeannette yn ymweld â gardd goffa yn y brifddinas Kigali, wrth i gyfres o seremonïau gael eu cynnal ar draws y wlad.
Roedd arweinwyr Chad, y Congo, Djibouti, Niger, Gwlad Belg, Canada, Ethiopia, Undeb Affrica a’r Undeb Ewropeaidd yn bresennol yn y brifddinas.
Mae 30,000 o bobol yn gorymdeithio i stadiwm genedlaethol Kigali, lle bydd gwylnos yn cael ei chynnal yn ddiweddarach.
Cefndir
Man cychwyn yr hil-laddiad oedd saethu awyren yr Arlywydd Juvenal Habyarimana i lawr yn Kigali yn 1994.
Fe fu farw yn y digwyddiad.
Dechreuodd yr awdurdodau ladd pobol o dras Tutsi, oedd yn cael y bai am ladd yr arlywydd, oedd o dras Hutu.
Mae Paul Kagame yn cael ei ganmol am ddod â’r cyfnod cythryblus i ben wrth wella economi a gofal iechyd y wlad, ond mae rhai yn ei ystyried yn unben.
Mae Ffrainc eisoes wedi gorchymyn ymchwiliad i’r hil-laddiad, ar ôl cael eu cyhuddo yn y gorffennol o droi eu cefn ar y sefyllfa.
Mae’r awdurdodau yn Rwanda yn dal i ddod o hyd i weddillion y meirw 25 o flynyddoedd yn ddiweddarach.