Mae “awyrgylch gwenwynig” yn y Senedd ym Mae Caerdydd ers y refferendwm Ewropeaidd yn 2016, yn ôl Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru.

Mae’n dweud iddi dderbyn “bygythiadau i dreisio a lladd” ar y we.

Daw ei sylwadau wrth i raglen Sunday Politics Wales y BBC edrych ar effaith dadl Brexit ar natur gwleidyddiaeth yng Nghymru.

“Dw i wedi cael bygythiadau i dreisio a lladd ac a bod yn deg, mae’r heddlu wedi bod yn dda ond mae rhai yn cwympo o dan y llinell [o fod yn anghyfreithlon],” meddai wrth y rhaglen.

Mae’n dweud bod natur “wenwynig” sylwadau sy’n cael eu gwneud ar wefannau cymdeithasol wedi treiddio i drafodaethau’r Siambr yn y Cynulliad.

“Roedd rhai pobol yn cyhuddo’r Cynulliad o fod yn ddiflas, ond rydym wedi ymgyfarwyddo â dadl fwy gwaraidd,” meddai.

Rheoleiddio

Wrth gyfeirio at sylwadau Leanne Wood, dywed Lee Waters, Aelod Cynulliad Llanelli, fod natur y Siambr yn adlewyrchu’r gymdeithas gyfan.

Ond mae Carwyn Jones, cyn-brif weinidog Cymru, yn galw am reoleiddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn atal sylwadau sarhaus rhag cael eu cyhoeddi, gan nodi na fyddai llawer o’r sylwadau sy’n ymddangos yn dderbyniol pe bai pobol yn eu gwneud nhw ar lafar yn y gymdeithas.

“Rhaid i ni ddychwelyd i wleidyddiaeth normal, a sgwrs nad yw’n fygythiol,” meddai.

“Mae cwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol wedi gweld ffordd allan a’r peth lleiaf y gallen nhw ei wneud yw amddiffyn pobol ddiniwed ac erlyn [y rhai sy’n sarhaus ar y we].”