Mae Jeremy Bowen yn dweud ei fod yn teimlo’n optimistaidd wrth gwffio canser, a bod yr ystadegau o’i blaid.

Cyhoeddodd y newyddiadurwr profiadol yn ddiweddar iddo gael diagnosis o ganser y coluddyn, er nad oedd e’n dioddef o’r symtomau arferol.

“Mae’r rhifau o’m plaid, a dyna’r hyn rwy’n hoelio fy sylw arno,” meddai wrth y Sunday Telegraph.

“Dw i’n teimlo’n eithaf optimistaidd. Dw i ddim am fynd i banig.”

Mae golygydd Dwyrain Canol y BBC yn derbyn cemotherapi ar hyn o bryd, ac mae’n dweud iddo benderfynu cyhoeddi manylion ei ddiagnosis ar ôl cael ei ysbrydoli gan George Alagiah, ei gydweithiwr oedd yn dioddef o’r cyflwr yn 2014.

Mae cyhoeddiad Jeremy Bowen wedi arwain at dreblu nifer yr ymwelwyr â gwefan y Gwasanaeth Iechyd.

“Ro’n i’n teimlo braidd yn hunanol o beidio â dweud unrhyw beth,” meddai am ei ddiagnosis.

“Dydych chi ddim am ddarlledu eich hanes meddygol ar y teledu ond ro’n i’n meddwl pe bai dim ond un person yn cael prawf ac yn dal eu canser mewn pryd, ei fod yn rhywbeth oedd yn werth ei wneud.”