Fe fydd arlywydd Algeria yn rhoi’r gorau i’w swydd cyn i’w bedwerydd tymor ddod i ben ar Ebrill 28.

Yn ôl y datganiad swyddogol, fe fydd Abdelaziz Bouteflika yn camu o’r neilltu er mwyn sicrhau bod yna “ddilyniant llyfn” wedi iddo fod yn y gwaith ers 1999.

Mae protestiadau anferth bob wythnos wedi bod yn galw arno i fynd, ac mae gwrthdystwyr hefyd yn galw ar ei griw o gefnogwyr agosaf i ymddiswyddo hefyd.

Dydi’r arlywydd 82 oed ddim wedi bod yn gyhoeddus iawn ers iddo gael strôc yn y flwyddyn 2013.

Fe gyhoeddodd ei fwriad i sefyll etholiad am bumed tymor yn y brif swydd, cyn tynnu’n ôl yn wyneb y ptotestiadau.

Mae cyfansoddiad Algeria yn galw ar arweinydd y senedd i gymryd drosodd swydd arlywydd am gyfnod o hyd at 90 diwrnod, os yw arlywydd yn ymddiswyddo neu’n gadael cyn diwedd ei dymor, tra bo etholiad yn cael ei drefnu.