Mae Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Mike Pence, yn galw ar NASA – asiantaeth ofod America – i anfon gofodwyr eto i’r Lleuad o fewn y pum mlynedd nesaf.
Dywed ei fod eisiau i NASA “gyflymu wrth geisio cyrraedd at eu targed” i gael gofodwyr America ar begwn de’r Lleuad.
“Mae angen iddyn nhw wneud hyn mewn unrhyw ffordd bosib” meddai wrth siarad yng nghyfarfod y Cyngor Gofod Cenedlaethol yn Huntsville, Alabama.
Mae targed NASA ar hyn o bryd i gyrraedd pegwn deheuol y Lleuad erbyn 2028, a hynny er mwyn caniatau amser i berffeithio’r dechnoleg a chasglu’r arian sy’n angenrheidiol.
Ond fe rybuddiodd Mikc Pence, os nad yw NASA yn gallu rhoi gofodwyr ar y lleuad erbyn 2024, bod “angen newid y sefydliad, nid y genhadaeth”.