Mae pethau wedi distewi rhwng Israel a Gaza, er bod rhai bwledi yn dal i gael eu saethu.

Mae ysgolion wedi ail-agor yn ne Israel heddiw (dydd Mercher, Mawrth 27) ar ôl i rocedi gael eu tanio o Gaza dros nos.

Fe darodd milwyr Israel yn ôl yn erbyn targedau Hamas yn Llain Gaza, ond does yna ddim adroddiadau o anafiadau ar yr un o’r ddwy ochr.

Mae’r gwrthdaro diweddaraf wedi ei sbarduno gan roced a gafodd ei thanio o Gaza ddydd Llun (Mawrth 25) ac a darodd dŷ yn Israel gan anafu saith o bobol.