Mae arlywydd Tsieina, Xi Jinping, yn cyfarfod arweinwyr Ffrainc, Yr Almaen a Chomisiwn Ewrop heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 26) i geisio cytuno ar reolau masnach tecach.
Y gobaith yw cydweithio er mwyn mynd i afael â’r heriau economaidd a diogelwch, mewn ymateb i bolisïau amddiffynnol yr Unol Daleithiau.
Yn y cyfarfod yn Paris y mae Xi Jinping, Emmanel Macron (arlywydd Ffrainc), Angela Merkel (Canghellor yr Almaen), a Jean-Claude Juncker, Llywydd Comisiwn Ewrop.
Mae gwledydd Ewrop yn gobeithio gwella’u perthynas gyda Tsieina a rhoi pwysau ar ei arferion busnes yng nghyd-destun tensiynau masnach rhwng yr Unol Daleithiau, a Tsieina a’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Tsiena, maen nhw eisiau rhan mewn sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Masnach y Byd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol.
Bydd cyfarfod arall rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Tsieina ar Ebrill 9. Yr Undeb yw partner masnach mwyaf Tsiena.