Mae addolwyr yn Seland Newydd wedi dychwelyd i’r mosg lle bu ymosodiad brawychol gwta wythnos yn ôl.

Mae cannoedd o bobol wedi oedi ar y stryd i osod blodau y tu allan i Fosg Al Noor yn ninas Christchurch, wedi i’r heddlu symud y rhwystrau a chaniatau i’r ganolfan ail-agor.

Mae’r ffenestri a gafodd eu malu wrth i addolwyr geisio dianc rhag yr ymosodwr, wedi’u trwsio, ac mae tyllau bwledi wedi cael eu llenwi â phlastar ffres a’r waliau wedi’u paentio.

Fe gafodd cyfanswm o 50 o bobol eu lladd mewn dau fosg yn Christchurch ar Fawrth 25. Dyma’r ymosodiad brawychol gwaetha’ yn Seland Newydd erioed.