Mae milwyr Israel wedi saethu Palesteiniad yn farw, tra’r oedd yn ceisio helpu dyn arall, yn ôl llywodraethwr dinas Bethlehem ar y Lan Orllewinol.

Yn ôl Kamel Hmeid, roedd milwyr ym mhentref al-Khader wedi tanio at gar gan anafu’r gyrrwr yn hwyr nos Fercher (Mawrth 20).

Fe ddaeth gŵr o’r enw Ahmad Manasra allan o’r car y tu ôl i’r hwnnw y taniwyd ato, er mwyn ceisio helpu’r gyrrwr, cyn iddo yntau gael ei saethu tra’n cerdded yn ôl i’w gar.

Ond mae llefarydd ar ran byddin Israel yn dweud fod un o’r soldiwrs wedi sylwi fod cerrig yn cael eu taflu at gerbydau Israelaidd ger Bethlehem, ac mai dyna pryd y taniodd. Mae’r fyddin wedi cadarnhau ei bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Mae hefyd wedi cadarnhau fod dau ddyn wedi’u saethu’n farw ddoe (dydd Mercher, Mawrth 20) gan y fyddin yn ninas Nablus ar y Lan Orllewinol.

Ers 2015, mae Palesteiniaid wedi lladd mwy na 50 o Israeliaid trwy drywanu, saethu ac ymosodiadau gyda cheir ar y Lan Orllewinol. Mae lluoedd Israel wedi lladd mwy na 260 o Balestiniaid yn yr un cyfnod.