Mae heddlu yn Ne Corea wedi arestio pedwar o bobol sy’n cael eu hamau o ffilmio tua 1,600 o bobol oedd yn aros mewn gwestai, heb iddyn nhw fod yn gwybod hynny, cyn cyhoeddi’r fideos ar y we.
Yn ôl yr awdurdodau, fe gafodd camerâu cudd bychan eu gosod mewn bocsus ar ben setiau teledu’r ystafelloedd, mewn peiriannau sychu gwallt ac mewn socedi trydan, mewn tua 42 o ystafelloedd mewn 30 o westai yn y wlad.
Mae’r heddlu yn cyhuddo’r dynion o wneud hyd at £4,700 (neu 7 miliwn won) allan o chwarae’r fideos yn fyw ar-lein ar wefan a sefydlwyd ganddyn nhw y llynedd.
Os y bydd llys yn eu cael nhw’n euog, mae pob un o’r dynion yn wynebu gorfod treulio hyd at saith mlynedd yn y carchar.
Mae’n cael ei honni fod un o’r dynion wedi gosod y camerâu ar ôl cael mynediad i’r gwestai tra’r oedd yn aros yno. Mae dyn arall wedi’i gyhuddo o lansio a rheoli’r wefan sydd bellach wedi’i chau lawr.
Y ddau ddyn arall sy’n cael eu cyhuddo o brynu’r offer ysbïo ac o ariannu’r wefan, yn ôl heddlu De Corea.