Mae’r Pab Ffransis wedi penderfynu gwrthod ymddiswyddiad y cardinal Philippe Barbarin – archesgob Lyon – er iddo benderfynu peidio datgelu fod offeiriad wedi cam-drin plant yn rhywiol.
Fe gafwyd Philipe Barnarin yn euog ar Fawrth 7 eleni o beidio â dweud wrth yr heddlu am droseddau’r Parchedig Bernard Preynat. Ond er iddo gynnig ymddiswyddo, tra ar ymweliad â’r Fatican ddoe (dydd Llun, Mawrth 18) mae’r Pab yn gwrthod ei dderbyn.
Yn hytrach, mae’n gofyn i Philipe Barbarin wneud yr hyn sydd orau i’w esgobaeth.
Ond, yn ôl y llys yn Ffrainc, roedd hi’n ddyletswydd ar y Cardinal adrodd y sgandal pan gyfaddefodd Bernard Preynat iddo gam-drin bechgyn yn rhywiol yn yr 1970au a’r 1980au.
Mae’r dioddefwyr yn cyhuddo Philipe Barbarin ac awdurdodau eraill yr eglwys o gadw pethau dan glawr am flynyddoedd.