Mae dynes ifanc o Geredigion, a oroesodd ganser pan oedd hi’n iau, ar fin ymgymryd â her newydd yn ei bywyd, sef croesi Cylch yr Arctig.
Mae Manon Williams o Lanbedr Pont Steffan yn gobeithio teithio i Sweden ar ddiwedd y mis er mwyn cwblhau’r sialens, sy’n cynnwys cerdded ar hyd lwybr 100km mewn cyfnod o bum diwrnod.
Pwrpas y daith yw codi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ac yn cefnogi cleifion canser a’u teuluoedd.
Mae’r ganolfan yn bwysig i Manon Williams, gan iddi ddioddef o ganser pan oedd yn bum mlwydd oed.
‘Bach yn nerfus’
Yn ystod y naw mis diwethaf, mae’r ferch sy’n brentis rhaglywiaeth yn yr Ardd Fotaneg ger Caerfyrddin, wedi bod yn paratoi ei hun ar gyfer yr her drwy ymweld yn gyson a’r gampfa a cherdded mynyddoedd Cymru.
Bydd disgwyl iddi ddelio â thymheredd sydd cyn ised â -50⁰C, ond ychwanega fod yr offer priodol eisoes yn barod ganddi.
“Dw i’n bach yn nerfus,” meddai wrth golwg360. “Y mwyaf agos mae’n dod y mwyaf nerfus dw i’n mynd.
“Ond dw i’n ddigon cyffrous, achos dw i’n gwybod bod y rheswm pam dw i’n ei wneud e’n un da.”
“Edrych am sialens”
Yn ôl Manon Williams, ers iddi oroesi her fwyaf ei bywyd yn bum mlwydd oed, mae hi wedi bod yn fath o berson sydd “wastad wedi edrych am sialens”.
“Dydw i ddim yn gallu eistedd mewn swyddfa a gwneud dim byd. Mae’n rhaid i fi wastad gwneud rhywbeth.”
Ac mae’r anturiaethwraig eisoes wedi meddwl am ei her nesaf, sef dringo un o fynyddoedd yr Himalaya.
“Dw i mo’yn cymryd lan peak yn yr Himalaya o’r enw Island Peak, sydd tua 5,000 metr. Dw i’n meddwl at yr her nesaf yn barod, er mwyn rhoi sialens i fy hun.”
Dyma Manon Williams yn sôn rhagor am y daith…