Mae pryderon bod dros 1,000 o bobol wedi cael eu lladd yn seiclon Idai a oedd wedi taro Mozambique wythnos ddiwethaf, yn ôl arlywydd y wlad.

Dywedodd Filipe Nyusi wrth Radio Mozambique heddiw (Dydd Llun, Mawrth 18), er mai 84 yw nifer y meirw ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r nifer gynyddu i fwy na 1,000.

Daeth sylwadau’r arlywydd ar ôl iddo hedfan dros borthladd dinas Beira gan weld y llifogydd a’r trychineb o’r awyr.

Yn ôl elusen y Groes Goch mae 90% o Beira, dinas sydd â phoblogaeth o 500,000, wedi cael ei difrodi neu ei dinistrio.

Fe darodd seiclon Idai dinas Beira wythnos ddiwethaf cyn symud tuag at Zimbabwe a Malawi.