Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow wedi dweud na fydd yn caniatáu pleidlais arall ar gynllun Brexit Theresa May os yw hi am gyflwyno’r cynllun fel y mae ar hyn o bryd.

Dywedodd John Bercow bod angen “newidiadau sylweddol” cyn bod Aelodau Seneddol yn cael pleidleisio ar y mater unwaith eto.

Mae’n ergyd arall i Theresa May wrth iddi geisio darbwyllo Aelodau Seneddol i gymeradwyo ei chynllun.

Dywedodd na fyddai’n briodol i ofyn i Aelodau Seneddol bleidleisio ar gynllun a oedd yr un fath, neu’n debyg iawn, i’r un a gafodd ei wrthod ar Fawrth 12. Fe gollodd y bleidlais o 149 o bleidleisiau wythnos ddiwethaf.

Mae Downing Street wedi bod yn ceisio cael cefnogaeth i’r cynllun – yn enwedig gan blaid y DUP – yn y gobaith o ddod a’r cynllun gerbron y Senedd unwaith eto cyn uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau.