Mae heddlu’n ymchwilio i Facebook yn dilyn achosion honedig o rannu data â chwmnïau technoleg, yn ôl adroddiadau.
Mae’r New York Times yn adrodd bod dau wneuthurwr ffonau symudol wedi gorfod ildio cofnodion i uchel reithgor yn Efrog Newydd.
Does dim sicrwydd ynglŷn â phryd dechreuodd yr ymchwiliad.
Mae’r platfform wedi cael ei gyhuddo o rannu data personol gyda dros 150 o gwmnïau gan gynnwys Amazon, Apple, Microsoft a Sony.
Ymateb Facebook
“Mae’r ymchwiliadau ffederal, gan gynnwys ymchwiliadau gan yr Adran Gyfiawnder, eisoes yn hysbys,” meddai Facebook.
“Rydym yn cydweithio gydag ymchwilwyr ac yn trin y mater yn ddifrifol. Rydym wedi darparu tystiolaeth gyhoeddus ac ateb cwestiynau. Ac rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny.”