Mae llywodraeth Malaysia wedi gorchymyn fod 34 o ysgolion yn ne’r wlad yn cael eu cau, wedi i wastraff gwenwynig gael ei ddympio mewn afon a gwneud degau o blant ac athrawon yn sâl.
Mae mwy na 500 o bobol wedi cael eu heffeithio ar ôl anadlu mwg gwenwynig, gan achosi iddyn nhw gael trafferth i anadlu, taflu i fyny a theimlo’n llesg ac yn sâl.
Mae gweinidog amgylchedd y wlad yn dweud y gallai glaw diweddar fod wedi gwneud y sefyllfa’n waeth, gan ledu’r gwenwyn yn hytrach na’i gyfyngu i un lle.
Mae tri o bobol wedi cael eu harestio yn ystod ymchwiliad i’r sefyllfa. Mae dau ohonyn nhw’n berchnogion ffatri.