Mae milwyr India a Pacistan wedi cysgodi eu gorsafoedd milwrol a phentrefi ar hyd ffin Kashmir wrth i’r gwrthdaro barhau gyda bwledi.
Mae’r ddwy fyddin yn beio ei gilydd am ddechrau’r saethu, ond nid oes unrhyw un wedi cael eu brifo eto, yn ôl adroddiadau.
Fe ollyngodd awyrlu India fom ar ran Pacistan o Kashmir wythnos diwethaf mewn ymateb i hunanfomiad wnaeth ladd 40 o filwyr India ar Chwefror 14.
Yn dilyn, fe saethodd Pacistan dwy o awyrennau byddin India cyn dal un o’u peilotiaid sydd wedi cael ei ddychwelyd i India mewn ymgais i gael heddwch.
Mewn ymgais arall i gael heddwch, mae Pacistan wedi arestio dwsinau o bobol – gan gynnwys brawd arweinydd grŵp y gwrthryfelwyr Jaish-e-Mohammad, sy’n cymryd cyfrifoldeb am yr hunanfomiad.
Mae India a Pacistan wedi ail-agor llwybrau bysus a threnau oedd wedi cael eu gohirio yn dilyn y cynnydd mewn tensiwn.
Dyma’r cyfnod hiraf o wrthdaro yn y ffrae dros Kashmir ers 1999.