Mae perchnogion bwyty poblogaidd yng Nghaernarfon a oedd wedi bod ar gau ers dechrau’r flwyddyn, wedi penderfynu cau’r drysau am byth.
“Ar ôl ar ôl cryn dipyn o ystyriaeth, rydym wedi penderfynu cau Tŷ Coz yn barhaol,” meddai neges ar eu tudalen cyfryngau cymdeithasol toc cyn cinio heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6).
“Diolch i bawb wnaeth gefnogi ni yn y fenter a roddodd gymaint o anogaeth i ni – rydym wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ar hyd y ffordd,” medden nhw wedyn.
Agorwyd y bwyty tapas oddi mewn i waliau’r hen dref ddiwedd 2017, ond mae wedi bod ar gau ers diwedd Ionawr eleni.
Mewn neges ym mis Ionawr, dywedodd Tŷ Coz “nad yw’r mwyafrif o’r cwsmeriaid yn rhannu (bwyd)” yn yr arddull Sbaenaidd, ond yn hytrach “yn archebu plateau bach o gig, llysiau a thatws iddyn nhw’u hunain”.
Marwolaeth aelod staff
Fe fu Tŷ Coz ar gau am gyfnod ym mis Mawrth, 2018 hefyd ar ôl marwolaeth aelod o staff.
Daethpwyd o hyd i gcorff y gweinydd, Jason Lewis, 43, ei ddarganfod ar draeth ger Rhosneigr, Ynys Môn. Doedd yr heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus.
Dywedodd Tŷ Coz mewn neges ar y pryd bod colled Jason Lewis wedi gadael “gwagle enfawr” a bod straeon y gwaith hebddo yn “anferthol”.
“Er nad oeddan ni ond yn nabod Jason am gyfnod cymharol fyr, gallwn ddweud â llaw ar ein calon, nad ydan ni wedi dod ar draws llawer o bobol fel fo, a chymaint o bethau i’w hoffi.”