Mae mwy o gartrefi o dan fygythiad gan danau gwyllt yn Awstralia, wedi i ddwsinau o adeiladau gael eu dinistrio yn ne-ddwyrain y wlad.

Mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi rhybudd i drefi Dargo a Licola yn Victoria wrth i’r fflamau agosáu.

Ers diwedd yr wythnos ddiwethaf (dydd Gwener, Mawrth 1), mae 38 o danau wedi difrodi 40,000 hectar o fforestydd a thir fferm ledled y dalaith, gan ddinistrio nifer o gartrefi ac adeiladau eraill.

Mae cannoedd o ymladdwyr tân wedi bod wrthi’n brwydro’n tanau, a hynny ar y ddaear ac yn yr awyr, gyda 75 o awyrennau a hofrenyddion yn gollwng dŵr ar y fflamau.

Fis diwethaf, fe wnaeth trigolion talaith Victoria ddynodi deng blynedd ers ‘dydd Sadwrn du’, pan gafodd 173 o bobol eu lladd a 2,000 o gartrefi eu dinistrio gan danau gwyllt ar Chwefror 7, 2009.