Mae disgwyl i benaethiaid rygbi yng Nghymru gyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 5) er mwyn trafod y posibilrwydd o uno dau ranbarth yn y gorllewin.

Yn ôl cynlluniau sydd o dan ystyriaeth gan Fwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB), fe all timau’r Scarlets a’r Gweilch gael eu huno mor gynnar â’r tymor nesaf.

Mae ffigyrau amlwg yn Undeb Rygbi Cymru hefyd yn awyddus i sefydlu tîm proffesiynol newydd ar gyfer y gogledd.

Mae’r cam yn cael ei ystyried y newid mwyaf i rygbi rhanbarthol yng Nghymru ers 2003.

“Cyfarfod tyngedfennol”

Mae’r PRB yn cynnwys cynrychiolwyr o bedwar corff rygbi yng Nghymru – Undeb Rygbi Cymru, y Scarlets, y Gweilch, y Dreigiau a’r Gleision.

Mae Cymdeithas Cefnogwyr Unedig Cymru (JSG Cymru), sy’n cynrychioli cefnogwyr y pedwar rhanbarth, eisoes wedi cyfarfod â Phrif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips, a’r Cyfarwyddwr Perfformiad, Ryan Jones, nos Lun.

“Fe wnaethom ni gael trafodaeth agored ynglŷn â’r cynllun ac wedi cael gwybod y bydd yna gyfarfod tyngedfennol yn cael ei gynnal yfory,” meddai’r grŵp mewn datganiad.