Mae ymosodwr Cymru, David Brooks, wedi arwyddo cytundeb hir dymor gyda’i glwb Bournemouth FC.
Ers ymuno o Sheffield United am £10m haf diwethaf, mae David Brooks wedi bod yn un o brif berfformwyr tîm Eddie Howe yn eu pedwerydd tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Yn ystod ei chwe mis gyda’r clwb yn Dorset yn ne Lloegr, mae’r chwaraewr 21 oed wedi derbyn gwobr chwaraewr y mis i’r clwb dair gwaith.
Mae hyn yn dilyn ei gyfraniad sylweddol i’r clwb wrth fachu chwe gôl a chreu pedair ohonynt mewn 26 gem.
Mi fydd David Brooks yn sicr yn y gystadleuaeth am wobr chwaraewr ifanc y flwyddyn ar ddiwedd y tymor.
“Pan ddechreuodd y trafodaethau am gytundeb newydd, roedd hi’n rhywbeth wnaeth ddim cymryd llawer o amser i’w gwblhau,” dywedodd David Brooks wrth wefan Bournemouth.
“Rwy’n hapus gyda nifer y gemau rwyf wedi chwarae a’r perfformiadau rwyf wedi rhoi i’r tîm.
“Rwyf wedi mwynhau pob munud o fy amser yma ac rwy’n hapus iawn i ymestyn fy nghytundeb,” ychwanegodd.