Mae o leiaf bedwar o bobol wedi’u lladd a phedwar arall wedi’u hanafu, wrth i’r frwydr rhwng Pacistan ac India tros ranbarth Kashmir barhau.
Fe ddechreuodd milwyr ymladd unwaith eto dros nos, gan ladd mam a dau o’i phlant ar ochr India y ffin wrth i fom daro eu cartref.
Cafodd tad y plant ei anafu yn y digwyddiad.
Mae Pacistan yn dweud bod milwyr India wedi dinistrio nifer o gartrefi.
Mae’r naill wlad a’r llall yn dweud eu bod yn ymateb i ymosodiadau ei gilydd.
Fe fu cryn densiwn rhwng y ddwy wlad ers dydd Mawrth, pan deithiodd awyren o India dros y ffin i ochr Pacistan y rhanbarth, gan fomio’r rhai y maen nhw’n dweud sy’n gyfrifol am ymosodiad gan hunanfomiwr a laddodd 40 o filwyr ar Chwefror 14.
Ymosododd Pacistan ar awyren Indiaidd ddydd Mercher, gan gipio’r peilot.
Dyma’r brwydro mwyaf ffyrnig yn Kashmir ers 1999, ac mae wedi gorfodi miloedd o bobol i ffoi o’u cartrefi a cheisio lloches mewn ardaloedd diogel.