Mae o leiaf 70 o bobol wedi marw, a thua 50 wedi eu hanafu, yn dilyn tân difrifol yn ninas Dhaka, Bangladesh.

Roedd y tân, sydd bellach o dan reolaeth, wedi rhwygo trwy gyfres o adeiladau mewn ardal siopa hynafol yn y brifddinas.

Mae Chawkbazar yn ardal sy’n eiconig am ei strydoedd cul a’i hadeiladau sy’n cynnwys busnesau ar y lloriau gwaelod a chartrefi uwch eu pennau.

Fe ddechreuodd y tân mewn un adeilad yn hwyr nos Fercher (Chwefror 20), gydag ymladdwyr tân yn gorfod brwydro yn erbyn y fflamau am gyfnod o fwy na 10 awr.

Roedd gan rai o’r adeiladau a gafodd eu difrodi storfeydd o gemegau a phlastig.