Mae confoi o lorïau yn cario cannoedd o bobol gyffredin, wedi gadael cadarnle olaf y Weriniaeth Islamaidd (IS) yn nwyrain Syria – gan awgrymu fod brwydr wythnos am yr ardal bellach ar ben.
Dyma’r darn lleiaf o dir ar lannau afon Ewffrates lle mae IS wedi bod yn ei reoli, o gofio fod y grwp eithafol rai blynyddoedd yn ôl yn dal gafael ar rannau helaeth o diroedd yn Syria ac Irac – ar un adeg o Aleppo i Baghdad.
Y gred ydi bod tua 300 o wrthryfelwyr IS – nifer fawr ohonyn nhw yn dramorwyr – yn cuddio ym mhentref anghysbell Baghouz, ynghyd â rhai cannoedd o bobol gyffredin ac yn aelodau o’u teuluoedd.
Dyw hi ddim yn glir beth yn union sydd i gyfri’ am y mudo diweddaraf hwn, er bod bwyd yn prinhau, a’r stoc arfau a bwledi hefyd yn rhedeg yn isel.