Does yna’r un o gyn-filwyr Natsïaidd yr SS yn derbyn pensiynau yng ngwlad Belg, meddai’r awdurdodau yn yr Almaen, wedi i nifer o bobol leisio pryderon ar y mater.
Mae’r Weinyddiaeth Waith wedi cadarnhau fod 18 o bobol yng ngwlad Belg yn derbyn pensiynau anabledd rhyfel, ond nad oes yr un cyn-aelod o’r Waffen SS yn eu plith.
Pan sefydlwyd y drefn yn 1950 gan Orllewin yr Almaen, roedd tua 4.4 miliwn o bobol, yn filwyr ac yn bobol gyffredin, yn gymwys i dderbyn pensiynau ’dioddefwyr rhyfel’.
Yn 1998, fe gafodd cyfraith ei phasio er mwyn tynnu’r arian yn ôl gan y rheiny oedd wedi bod yn rhan neu’n gyfrifol am “droseddau yn erbyn egwyddorion dynoliaeth”.
Fe ddaeth adolygiad yn 2016 i’r casgliad mai dim ond 99 o bobol oedd wedi cael eu dileu oddi ar y rhestr hyd at y flwyddyn 2013.