Bu miloedd yn gorymdeithio yn Paris a dinasoedd eraill yn Ffrainc ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 20) yn dilyn cyfres o weithredoedd treisgar yn erbyn y gymuned Iddewig yn ddiweddar.
Roedd dau o gyn-Arlywyddion y wlad, Francois Hollande a Nicolas Sarkozy, yn bresennol mewn rali yn Paris a oedd yn cael ei arwain gan y Prif Weinidog, Edouard Philippe.
Roedd y digwyddiadau ledled y wlad yn cynnwys pleidiau gwleidyddol ar draws y sbectrwm gwleidyddol, er bod plaid asgell-dde Marine Le Pen wedi cynnal eu digwyddiad unigol eu hunain.
Bu’r Arlywydd presennol, Emmanuel Macron, yn rhan o funud o dawelwch mewn amgueddfa Holocost yn Paris.
Dywedodd mewn cynhadledd i’r wasg fod unrhyw weithred yn erbyn Iddewon yn “ymosodiad” ar y Weriniaeth gyfan.
Ychydig oriau cyn hynny, fe ymwelodd â mynwent Iddewig yn Quatzenheim yng ngogledd-ddwyrain Alsace, gan fynegi ei siom tuag at y difrod a wnaed yno yn ddiweddar.