Mae wythfed Aelod Seneddol wedi gadael y Blaid Lafur er mwyn ymuno â’r grŵp annibynnol newydd.
Yn ôl Joan Ryan, a oedd yn gadeirydd ar grŵp Ffrindiau Llafur Israel, dyw arweinydd presennol y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ddim yn addas i fod yn Brif Weinidog.
Dywedodd ymhellach fod y blaid wedi cael ei “heintio” gan wrth-semitiaeth o dan ei arweiniad.
Daw ei chyhoeddiad wrth i’r Blaid Lafur gychwyn ar ymgynghoriad ynglŷn â newidiadau a fydd yn rhoi’r hawl i bleidleiswyr orfodi is-etholiad os yw Aelodau Seneddol yn newid plaid.
Ddechrau’r wythnos, fe adawodd saith Aelod Seneddol er mwyn sefydlu’r Grŵp Annibynnol. Mae’r rheiny’n cynnwys cyn-weinidogion yng nghabinet yr wrthblaid fel Chuka Umunna Luciana Berger a Chris Leslie.
Maen nhw wedi gwrthod galwadau gan rai o brif ffigyrau’r Blaid Lafur, gan gynnwys John McDonnell, i ymddiswyddo fel Aelodau Seneddol ac ymladd is-etholiad.