Mae un o glybiau pêl-droed Brasil yn wynebu beirniadaeth yn dilyn y tân ar safle cae ymarfer a laddodd ddeg o bobol.

Roedden nhw’n cysgu ar safle academi’r clwb pan aeth yr adeilad ar dân.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y clwb wedi cael dirwy 31 o weithiau yn sgil gwendidau ar y safle a gafodd ei gau dros dro yn 2017 yn dilyn pryderon am ddiogelwch. Dydyn nhw ddim wedi talu 21 o’r dirwyon hynny.

Mae lle i gredu bod y fan lle’r oedd y chwaraewyr yn cysgu wedi cael ei gofrestru fel maes parcio.

Roedd y rhai a fu farw i gyd rhwng 14 ac 16 oed.

Mae tri o lanciau yn yr ysbyty, ac un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Wfftio honiadau

Doedd y tân ddim yn gysylltiedig â’r helyntion trwyddedu, meddai’r clwb mewn datganiad.

Ac maen nhw’n wfftio’r honiadau nad oedd y fan lle’r oedd y chwaraewyr yn cysgu wedi cael ei chofrestru’n gywir.

Dywed llefarydd fod gan y clwb wyth o drwyddedau dilys allan o’r naw angenrheidiol, a bod y broses o gaffael y nawfed yn mynd rhagddi.

“Damwain drasig” oedd y tân, meddai, gan roi’r bai am y digwyddiad ar y glaw a allai fod wedi achosi tân trydanol.

Does dim eglurhad hyd yn hyn pam fod y fan lle’r oedd y chwaraewyr yn cysgu wedi’i chofrestru fel maes parcio.

Mae ymchwiliad i’r tân ar y gweill, a’r gred yw fod nam ar y system awyru.

Y rhai a fu farw oedd Arthur Vinicius de Barros Silva, Pablo Henrique da Silva Matos, Vitor Isaias Coelho da Silva, Bernardo Augusto Manzke Pisetta, Gedson Corgosinho Beltrao dos Santos, Athila de Souza Paixao a Christian Esmerio Candido.

Mae Jhonata Ventura mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ac mae’r athletwyr Cauan Emanuel a Francisco Dyogo mewn cyflwr sefydlog.

Fe allai gymryd rhai misoedd i adnabod y rhai eraill a gafodd eu lladd.