“Os oes gwell hyfforddwyr i’w cael, rhowch enwau i fi,” meddai Steve Watkin, is-hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, wrth golwg360, wrth ymateb i feirniadaeth fod y clwb yn penodi gormod o gyn-chwaraewyr i’r tîm hyfforddi.
Daw ei sylwadau yn dilyn y newyddion yr wythnos ddiwethaf fod Matthew Maynard wedi’i benodi’n brif hyfforddwr dros dro tan ddiwedd tymor 2019.
Mae’n ymuno â thîm hyfforddi sy’n cynnwys y Cyfarwyddwr Criced newydd Mark Wallace, a’r is-hyfforddwyr Steve Watkin, Adrian Shaw a David Harrison.
Gadawodd Robert Croft, un arall o hoelion wyth y sir, ei swydd ar ddiwedd y tymor diwethaf, yn dilyn adolygiad annibynnol, gyda Hugh Morris yn colli ei swydd yn Gyfarwyddwr Criced ond yn parhau’n Brif Weithredwr.
“Dw i wastad yn meddwl, o edrych ar y gylchdaith, fod ein holl hyfforddwyr yn gymwys a phrofiadol iawn fel hyfforddwyr a chwaraewyr,” meddai.
“Os gallwch chi ddod o hyd i uned hyfforddi sy’n well ac sydd â rhinweddau gwell na ni, yna rhowch enwau i fi.
“Fyddai hi ddim yn hawdd disodli’r bobol sydd gyda ni gyda phobol well.
“Roedd Robert Croft yn brif hyfforddwr am dair blynedd, ac roedd e’n hyfforddwr credadwy iawn. Roedd hi’n drist ei weld e’n mynd.
“Dw i’n credu ein bod ni’n lwcus iawn yng Nghymru fod gyda ni gynifer o hyfforddwyr da a phobol dda.”
Rhinweddau Matthew Maynard
Yn ôl Steve Watkin, mae gan Matthew Maynard y rhinweddau priodol er mwyn llwyddo yn y swydd.
“Mae e wedi gwneud y swydd o’r blaen yng Ngwlad yr Haf, ac mae e wedi bod yn brif hyfforddwr yn Ne Affrica hefyd.
“Mae e wedi hyfforddi mewn nifer o lefydd, felly mae e’n dod â barn wahanol o safbwynt lle mae e wedi bod.
“Roedd e’n dipyn o chwaraewr, felly mae ganddo fe wybodaeth a phrofiad o nifer o wahanol sefyllfaoedd, boed fel hyfforddwr neu chwaraewr, felly gall e gwympo’n ôl ar y pethau hynny.
“Dyma’r peth cywir i’w wneud, dw i’n credu. Dw i’n cefnogi Matthew yn llwyr, yn ei adnabod e ers nifer o flynyddoedd, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda fe yn yr haf.”
Cydweithio â Mark Wallace, y Cyfarwyddwr Criced
Wrth i Mark Wallace ddechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Criced yr wythnos ddiwethaf, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd yna ragor o newidiadau i’r tîm hyfforddi neu i swyddi’r hyfforddwyr presennol.
“Fy swydd i yw hyfforddwr bowlio a hyfforddwr yr ail dîm, a dw i’n eitha’ hapus yn gwneud yr hyn dw i’n ei wneud.
“Alla i weld unrhyw newidiadau? Na, fwy na thebyg. Matthew yw’r hyfforddwr dros dro tan ddiwedd yr haf, felly bydd yr hyn sydd yn ei le yn aros yn ei le, am wn i.”
‘Dim bwled hud’
Does dim “bwled hud” er mwyn gwella sefyllfa Morgannwg yn y tymor byr, meddai.
“Ein gwaith fel uned hyfforddi yw gwella’r chwaraewyr gorau gallwn ni, a’u paratoi nhw ar gyfer yr haf sydd i ddod – boed nhw’n chwaraewyr ifainc sy’n datblygu ac a oedd wedi chwarae dipyn y tymor diwethaf, neu’r ysgwyddau mwyaf profiadol.
“Ein gwaith ni yw rhoi tîm ar y cae sy’n mynd i fod yn gystadleuol.”
Prif hyfforddwr y dyfodol?
Am y tro, mae Steve Watkin yn hapus yn ei rôl fel is-hyfforddwr, heb fod yn llygadu’r brif swydd yn y pen draw.
“Fe wnes i swydd yr is-hyfforddwr o dan Matthew Mott, a Matthew [Maynard] pan oedd e yma o’r blaen. Fe wnes i fwynhau’r adeg yna.
“Ond fy ngwaith i yw helpu i gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf.
“Dw i’n tynnu ymlaen nawr, yn 54 oed, bron yn 55 oed, felly dw i’n mwynhau’r hyn dw i’n ei wneud.
“Os yw’r clwb yn teimlo eu bod nhw am fynd i gyfeiriad gwahanol, fe wnawn ni eistedd a thrafod hynny, am wn i.”